Page awaiting translation update...
Croeso i Grŵp Ystlumod Gwynedd
Mae Grŵp Ystlumod Gwynedd yn elusen gofrestredig sy’n gweithio i godi
ymwybyddiaeth am warchod ystlumod yng ngogledd orllewin Cymru. Yr ydym yn rhwydwaith bychan o wirfoddolwyr o Ynys Môn, Gwynedd a gorllewin Conwy gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri. Yr ydym yn monitro ac arolygu poblogaethau ystlumod lleol ac rydym yn gallu rhoi gwybodaeth a chyngor am ystlumod a chadwraeth ystlumod yn lleol. |
|
- Os ydych angen gwybodaeth neu gyngor cyffredinol am ystlumod neu gadwraeth ystlumod cysylltwch â’r Grŵp neu ymwelwch â gwefan BCT (Bat Conservation Trust) os gwelwch yn dda.
- Os ydych wedi darganfod ystlum ar y llawr neu ystlum wedi ei anafu neu os oes angen cyngor brys arnoch ymwelwch â gwefan BCT neu ffoniwch Llinell Gymorth Ystlumod ar 0845 1300 228
- Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Grŵp, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth
- Os ydych yn chwilio am gyngor yn ymwneud â gwaith datblygu neu atgyweirio adeiladau a.y.b. cysylltwch â’ch cangen Cyngor
Cefn Gwlad Cymru leol neu Llinell Ymholiadau CCGC 0300 065 3000. Ceir ragor o wybodaeth ar wefan yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod (Bat Conservation Trust).
Mae Grŵp Ystlumod Gwynedd yn gymdeithas fechan gyfeillgar sy’n gweithio i helpu gwarchod ystlumod yng Ngogledd Cymru.
Yr ydym yn cyfarfod yn fisol (fel arfer mewn tafarndai gyda chlwyd ei hunain!), yn derbyn cylchlythyr rheolaidd, yn trefnu sesiynau hyfforddiant ac yn ymweld â chlwydau a safleoedd gaeafgysgu.
Mae ystlumod dan fygythiad oherwydd natur newidiol yr amgylchedd ac mae monitro’r poblogaethau a rhoi cyngor ynglŷn â’u presenoldeb yn hanfodol bwysig i sicrhau eu goroesiad.
Yr ydym yn ffodus iawn gan fod gennym y tair clwyd pipistrelle mwyaf yng Nghymru ar ein trothwy, gyda dros 1000 o ystlumod ym mhob un mae’r rhain gyda’r mwyaf ym Mhrydain. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni i fonitro’r rhain a chlwydau eraill a darganfod safleoedd newydd, neu os ydych eisiau cefnogi ein gwaith cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Dyma’r rhywogaethau sydd i’w cael yn ein hardal:
Dyma’r tair rhywogaeth fwyaf cyffredin. Mae’r rhain yn
ddibynnol iawn aradeiladau.
Ystlum lleiaf (Pipistrellus pipistrellus)
Ystlum lleiaf uchelsain (Pipistrellus pygmaeus)
Yr ystlum hirglust (Plecotus auritus)
Ystlum lleiaf nathusius (Pipistrellus nathusii)
Prin iawn ydi’r cofnodion o’r rhywogaeth yma felly mae’n bosib eu bod wedi cael eu hesgeuluso.
Yr Ysltum mawr (Nyctalus noctula) - Y glwyd mewn tyllau mewn coed fel rheol. Eithaf cyffredin.
Ystlum Natterer (Myotis nattereri)
Yr Ystlum barfog (Myotis mystacinus)
Ystlum Brandt (Myotis brandtii)
Ystlum y Dwr (Myotis daubentonii)
Mae’n bosib bod aelodau’r teulu agos hwn yn fwy cyffredin yng Nghymru na gweddill Prydain. Ddim yn anghyffredin. Mae’n bosib bod Ystlum y Dwr yn llai dibynnol ar adeiladau nag eraill.
Ystlum pedol mawr (Rhinolophus ferrumequinum)
Rhywogaeth brin iawn gyda dim ond nifer fechan wedi eu cofnodi yng Ngogledd Cymru.
Ystlum pedol lleiaf (Rhinolophus hipposideros)
Rhywogaeth brin gyda’i gadarnle yng Nghymru a’r poblogaethau craidd yng ngogledd orllewin Cymru.
Yr ystlum du (Barbastella barbastellus)
Ystlum prin iawn sydd yn clwydo mewn coed. Mae o wedi ei gofnodi yng ngogledd orllewin Cymru ond nid oes clwyd wedi ei ddarganfod eto.

Gwynedd Bat Group is a Registered Charity No. 1074706